Etholiad y Cynulliad 2016

Croeso i’n hafan dudalen ar gyfer Etholiad y Cynulliad 2016. Darllenwch eiriau ein Llywydd isod a chofiwch nodi Diwrnod yr Etholiad, sef 5ed Mai, yn eich dyddiaduron.

Etholiad y Cynulliad 2016“Mae gan fyfyrwyr Cymru hanes balch o ymladd dros gyfiawnder cymdeithasol, gan fynnu system addysg well, wedi’i chyllido’n fwy cyfiawn, yn ogystal ag ymgyrchu yn ein cymunedau. Mae etholiadau’r Cynulliad Cenedlaethol yn argoeli i fod y mwyaf allweddol i Fyfyrwyr Cymru ers cyflwyno datganoli, ac eleni yw ein cyfle i hawlio gwleidyddiaeth yn ôl fel maes sy’n eiddo i fyfyrwyr. Ymunwch â myfyrwyr eraill a defnyddiwch eich pleidlais i anfon neges bwerus.”

Beth Button, Llywydd UCM Cymru

I weld ein maniffesto llawn, cliciwch ar adnoddau. I glywed gan fyfyrwyr eu hunain, ewch i’n tudalen straeon i glywed pam bod eich pleidlais yn bwysig. Awydd gwybod mwy am y Cynulliad ei hun? Gweler ‘Beth yw’r Cynulliad’ am fwy o wybodaeth.